
Dydd Gwener 10 Medi i Ddydd Sul 12 Medi 2021
Mae’r gymuned yn ganolbwynt i bopeth a wnawn. Rydym wedi trefnu rhaglen ysbrydoledig o eiriau a cherddoriaeth gan roi ystyriaeth lwyr i chi – lle yr ydych chi yn awr, beth sy’n wirioneddol bwysig i chi a beth allwn ni ei wneud er mwyn codi’ch ysbryd.
Nid yw’r flwyddyn hon wedi bod yn hawdd i’r un ohonom ac fe wyddom ni hynny. Gwyddom hefyd y gall grym cerddoriaeth oresgyn popeth, mynd â chi i le arall a gwneud i’ch calon ganu.
A dyna ble y gallwn ni gyfrannu. Eleni, daw’n hysbrydoliaeth o gefn gwlad hardd Prydain a bydd y tenor James Gilchrist, y pianyddon Anna Tilbrook a Simon Callaghan, a’r adroddwr Peter Florence yn ymuno â’r pedwarawd.
Gadewch i’r perfformwyr byd-enwog hyn ddod â cherddoriaeth fyw, o safon aruchel atoch a hynny er mwyn cynnig adloniant, eich cyfareddu a’ch gwefreiddio ond hefyd eich tawelu, cysuro a’ch adfywio.
Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am eich cefnogaeth a’ch brwdfrydedd ac edrychwn ymlaen at eich gweld yng Ngŵyl Gerddoriaeth Siambr Fitzwilliam yn y Gelli yn 2021.
Gwybodaeth am Ŵyl 2021…
The Fitzwilliam String Quartet with

Richard Wigmore

James Gilchrist

Anna Tilbrook

Simon Callaghan

Elizabeth Bradley
- Gwaith siambr gan Haydn, Schubert (gan gynnwys Pumawd ‘y Brithyll’), Schumann, Brahms a Vaughan Williams
- Gweithiau lleisiol gan Arthur Bliss, Ivor Gurney a Vaughan Williams
- Cerddi wedi eu hysbrydoli gan y wlad brydferth o’n cwmpas yn lleol
Ar y pnawn dydd Sadwrn, ceir hefyd ddangosiad o ffilm John Bridcut, The Passions of Vaughan Williams.
Ochr yn ochr â hyn oll, bydd yr awdur, darlithydd a’r darlledwr Richard Wigmore, yn rhedeg ei sesiynau astudio hynod addysgiadol yn seiliedig ar y gweithiau a berfformiwyd. Proses fywiog sy’n ennyn diddordeb yw hon sy’n cynnwys sgyrsiau ac arddangosiadau oddi wrth y cerddorion eu hunain ble y caiff eu cyfansoddiadau a’u cefndiroedd bywgraffyddol a diwylliannol eu harchwilio.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr y Mynydd Du
Mae Gŵyl Gerddoriaeth Siambr Fitzwilliam y Gelli yn cael ei chynnal yn nhref y Gelli Gandryll a’r cyffiniau ac mae’n cael ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr y Mynydd Du. Bwriad yr ymddiriedolaeth yw hybu mwynhad, gwerthfawrogiad a dealltwriaeth gerddorol trwy gyngherddau, trafodaethau, dosbarthiadau a digwyddiadau cysylltiedig eraill gan gynnwys sesiynau allgymorth mewn canolfannau i gleifion dementia ac iechyd meddwl yn ogystal â mewn ysgolion. Mae’r ŵyl yn cydweithio â Phedwarawd Llinynnol Fitzwilliam ond hefyd bydd perfformiadau gan grwpiau eraill a fydd yn aml yn cynnig llwyfan i offerynwyr ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd.